top of page

Gwasanaeth olaf yng Nghapel Brynmyrnach // Final Service at Brynmyrnach Chapel


Mae aelodau Capel Brynmyrnach yn cael eu gwasanaeth olaf ar ddydd Sul y 25ain o Fedi 2022 am 4 o’r gloch cyn cau’r drysau a dad-gorffori’r capel ar ôl bod ar agor am 134 o flynyddoedd. Bydd y gwasanaeth yn cael ei arwain gan y Parchedig Geoffery Eynon gydag eraill hefyd yn cyfrannu at y gwasanaeth terfynol. Estynnir croeso cynnes i bobl sy’n dymuno dod draw yn enwedig y rhai sydd â chysylltiadau â’r capel a’r gymuned. Yn dilyn y gwasanaeth bydd te, coffi, pice ar y maen a bara brith yng Nghanolfan Hermon (neuadd y pentref).

//

The members of Brynmyrnach Chapel have their final service on Sunday the 25th of September 2022 at 4pm before closing the doors and disincorporation the chapel after being open for 134 years. The service will be led by Reverend Geoffery Eynon with others also contributing to the final service. A warm welcome is extended to people wishing to come along especially those with links to the chapel and the community. Following the service there will be tea, coffee, welsh-cakes and bara-brith at Canolfan Hermon (village hall).

コメント


bottom of page